Herm

Herm
Mathynys, Tiriogaethau dibynnol y Goron, car-free place Edit this on Wikidata
Poblogaeth60 Edit this on Wikidata
AnthemSarnia Cherie Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd y Sianel Edit this on Wikidata
SirSt Peter Port Edit this on Wikidata
GwladBeilïaeth Ynys y Garn Edit this on Wikidata
Arwynebedd2 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr66 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.47°N 2.45°W Edit this on Wikidata
Hyd2.4 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Map sy'n dangos lleoliad Herm o fewn Beilïaeth Ynys y Garn

Un o Ynysoedd y Sianel yw Herm (Guernésiais: Haerme) sy'n rhan o Blwyf Saint Peter Port ym Meilïaeth Ynys y Garn. Lleolir ym Môr Udd, i ddwyrain Ynys y Garn ac i ogledd-orllewin Sark a Brecqhou. Mae ganddi arwynebedd o 2 km2, a phoblogaeth o 62.[1]

Darganfuwyd Herm yn Oes Ganol y Cerrig, a daeth yr ymsefydlwyr cyntaf i'r ynys yn Oes Newydd y Cerrig ac Oes yr Efydd. Canfuwyd nifer o fedroddau megalithig yng ngogledd Herm a adeiladwyd gan ffermwyr yn 5000–3000 CC.[2] Cafodd yr ynys ei chyfeddiannu gan Ddugiaeth Normandi yn 933. Bu'n diriogaeth i Goron Loegr ers 1204. Roedd yn gartref i fynachod yn yr 16g, ac yn hwyrach bu llywodraethwyr Ynys y Garn yn hwylio i'r ynys i saethu cwningod. Adeiladwyd chwarel gwenithfaen a mwynglawdd arian ar Herm yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Tri thenant cyntaf Herm, oedd yn meddu ar brydles yr ynys, oedd y Tywysog Blücher von Wahlstatt, ŵyr y Maeslywydd Gebhard Blücher (1889–1914), yr awdur Compton Mackenzie (1920–23), a Syr Percival Perry, cadeirydd y cwmni Ford (1923–39). Cafodd Ynysoedd y Sianel eu meddiannu gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1949, prynodd Cynulliad Ynys y Garn yr ynys oddi ar y Goron. Roedd Herm yn brydles i'r Uwchgapten Peter Wood o 1949 hyd 1980, a'i ferch Penny a'i gŵr Adrian Heyworth o 1980 hyd 2008. Rheolir Herm heddiw gan Herm Island Ltd, rhan o ymddiriedolaeth Starboard Settlement, a sefydlwyd gan y tenantiaid John a Julia Singer.[3]

Lleolir porthladd Herm ar ei arfordir gorllewinol. Ymhlith adeiladau'r ynys mae gwesty'r Tŷ Gwyn, Capel St Tugual, Bwthyn y Pysgotwr, tafarn a bwyty'r Mermaid, ac ysgol gynradd fechan a chanddi wyth o ddisgyblion.[1] Yn ystod yr haf, mae hyd at 100,000 o dwristiaid yn ymweld â'r ynys, ac yn cyrraedd ar un o gatamaranau'r cwmni Trident. Adeg y Nadolig, mae hyd at 500 o drigolion Ynys y Garn yn teithio i Herm pob dydd i brynu anrhegion yn siop yr ynys.[1] Gwaharddir ceir a beiciau ar Herm, a chaniateir tractorau i gludo nwyddau a beiciau â phedair olwyn i gludo gweithwyr o amgylch yr ynys.

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Helen Pidd. Herm away from home: the Channel Island charmer, The Guardian (28 Mehefin 2012). Adalwyd ar 28 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) Herm project Archifwyd 2016-11-17 yn y Peiriant Wayback, Prifysgol Durham. Adalwyd ar 28 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) Jerome Taylor. Herm Island: Lovers' rock Archifwyd 2017-04-08 yn y Peiriant Wayback, The Independent (24 Medi 2008). Adalwyd ar 28 Ionawr 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in